CYFLWYNIAD
Mae Plant a Phobl Ifanc yn rhan bwysig iawn o gymuned yr Eglwys yng Nghymru, i’w parchu a’u hanwylo er eu mwyn eu hunain. Wythnos ar ôl wythnos fe fydd plant yn ymweld ag adeiladau’r eglwys i addoli ac i chwarae. Mae hyn yn bosibl yn bennaf drwy wirfoddolwyr ymroddedig sy’n rhoi eu hamser a’u doniau i wasanaeth yr Eglwys.
Nid yw llunio’r canllaw hwn ar ymarfer da am awgrymu fod y rheiny sy’n ymwneud â gwaith cyflogedig neu wirfoddol gyda phlant a phobl ifanc yr Eglwys o dan amheuaeth. Mae’r Eglwys yng Nghymru yn awyddus i ddarparu amgylchfyd diogel a hapus lle gall plant a phobl ifanc dyfu a datblygu yn eu hymrwymiad Cristnogol.
Wrth ymateb i awydd yr Eglwys yng Nghymru i ddarparu’r amgylchfyd diogel a hapus hwn ac mae llawer ohonoch chi eisoes wedi mabwysiadu datganiad polisi ac wrthi’n hyrwyddo ymarfer da. Lluniwyd y canllaw hwn i’ch cynorthwyo chi i hyrwyddo gweithdrefnau gwell ar gyfer gweithio gyda phlant a phobl ifanc yn yr Eglwys yng Nghymru.
Fe fydd gweithredu’r argymhellion sydd yn y canllaw ymarfer da hwn yn rhoi i blant a phobl ifanc y gofal a’r amddiffyn y maent yn eu haeddu. Bydd yn rhoi sicrwydd i rieni a amddiffynwyr fod eu plant yn ddiogel wrth gymryd rhan yng ngweithgareddau’r Eglwys. Fe ddylai helpu i ddiogelu staff a gwirfoddolwyr rhag honiadau ar gam a all godi o gamddealltwriaeth; fe ddylai hefyd leihau’r perygl i’r Eglwys gael ei hunan yn atebol mewn ymgyfreitha sy’n codi o amgylchiadau o gamdrin.
Mae’r canllaw ymarfer da yn caniatáu rhywfaint o hyblygrwydd a’r gobaith yw y gellir, lle bo polisïau a gweithdrefnau eisoes wedi’u datblygu, eu haddasu er mwyn adlewyrchu’r manylion sydd yn y canllaw ymarfer da.
Gadewch i’r plant ddod ataf i a pheidiwch â’u rhwystro, oherwydd i rai fel hwy y mae teyrnas nefoedd yn perthyn.
Mathew Pennod 19 adn 14.
Rydyn ni, eich Esgobion, yn cymeradwyo i chi y gweithdrefnau sydd yn y canllaw ymarfer da.

