Rhoi yn syth
Beth yw Rhoi yn Syth?
Gwasanaeth yw Rhoi yn Syth sy’n galluogi aelodau’r Eglwys yng Nghymru i wneud cyfraniadau rheolaidd at eu dewis blwyf trwy ddebyd uniongyrchol. Gweinyddir y gwasanaeth o Swyddfa’r Dalaith yn rhad ac am ddim i blwyfi. Ar hyn o bryd y mae 1,584 o blwyfolion mewn 234 o blwyfi yn ei ddefnyddio. Bob blwyddyn, cesglir rhoddion Cymorth Rhodd gwerth £711,154 a hawlir ad-daliadau treth o £183,210.
Os oes gennych ymholiadau pellach, ebostiwch giftdirect@churchinwales.org.uk neu ffôniwch 02920 348 200.
Sut y mae’n gweithio?
Mae’r cynllun Rhoi yn Syth yn hawdd i aelodau’r Eglwys a phlwyfi ei ddefnyddio.
- Rhaid i’r rhoddwr lenwi ffurflen Ymrwymo a mandat Debyd Uniongyrchol.
Mae’r ffurflen Ymrwymo yn rhoi manylion y rhoddwr ac yn cadarnhau i ba blwyf y gwneir y rhodd a’i maint. Mae hefyd yn cadarnhau a ellir hawlio Cymorth Rhodd oddi wrth Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi ai peidio.
Mae’r mandat Debyd Uniongyrchol yn dweud wrthym o ba gyfrif y daw’r rhodd ac yn ein hawdurdodi i’w chasglu o’r cyfrif hwnnw. Cesglir y rhodd ar y 6ed o bob mis. - Wedi inni brosesu’r manylion, anfonir llythyr i’r rhoddwr yn ei atgoffa o nodweddion allweddol y broses ac yn cynnwys hefyd gyflenwad o arian ffug Rhoi yn Syth i’w rhoi ar y plât casglu.
- Cysylltir â’r plwyf y bwriedir iddo dderbyn y rhodd i gael ei fanylion banc yn unol â dymuniad y rhoddwr.
- Os bydd angen newid yr ymrwymiad – ei gynyddu, ei leihau , newid plwyf, newid manylion banc – dylai’r rhoddwr roi gwybod inni mewn ysgrifen neu ebost gan ddyfynnu’r cyfeirif a roddir iddo. Yn dilyn unrhyw newid, anfonir llythyr arall i’r rhoddwr yn cynnwys y manylion diwygiedig.
- Trosglwyddir y rhodd i’r plwyf ychydig ddyddiau wedi iddo adael cyfrif banc y rhoddwr.
- Trosglwyddir yr ad-daliad treth a hawlir oddi wrth Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi i gyfrif banc y plwyf yn union wedi inni ei dderbyn. Dibynna hyn ar ba bryd y bydd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn gwneud y taliad; fel rheol, gwneir hynny yn gyflym.
- Byddwn yn rhoi gwybod yn fisol i Ysgrifenyddion Cymorth Rhodd y plwyfi ar ba ddyddiad y gallant ddisgwyl y telir i’w cyfrif bob rhodd ac ad-daliad treth cysylltiedig â’r cynllun hwn.
- O’r dechrau cyntaf caiff y rhoddwr ddewis cynyddu’r rhodd yn awtomatig bob blwyddyn i gyfateb i’r Mynegai Prisiau Adwerthu. Os yw’n dewis gwneud hyn, fe gaiff lythyr yn cadarnhau’r swm newydd. Bydd pob rhoddwr (a ydyw wedi dewis y cynnydd awtomatig blynyddol ai peidio) yn derbyn datganiad blynyddol yn diolch am ei haelioni dros y flwyddyn a fu. Dangosodd profiad y bydd hyn yn aml yn ysgogi’r rhoddwr i ofyn am i’r rhodd gael ei chynyddu at y flwyddyn sy’n dod.

