To Church in Wales home page

The Church in Wales - Yr Eglwys yng Nghymru

Rhagor o Wybodaeth

Ydych chi am wybod rhagor?

Ceir rhestr o gyhoeddiadau perthnasol ar gyfer yr adran hon ynghyd â manylion am destunau hwy.

Gweler hefyd:

Beth all yr eglwys heddiw ddysgu oddi wrth Gristnogaeth Geltaidd?

PWY YW’R CELTIAID?

Roedd yr hen Roegiaid yn cyfeirio at y bobl a oedd yn byw i’r gogledd a’r gorllewin fel y KELTOI. O’r gair hwn y tarddodd y Lladin ‘Celtae’ neu ‘Galatae’ a’r Gymraeg ‘Celtiaid’. Ar y pryd yr oedd y Celtiaid yn byw yn y rhan fwyaf o Ganolbarth Ewrop, Sbaen, Gâl ac o bosibl Galatia yn Asia Leiaf. 

Fodd bynnag, yn ystod y cyfnod modern mae’r disgrifiad ‘Celtiaid’ wedi cael ei gyfyngu i drigolion Llydaw, Cernyw a Chymru, Iwerddon, Yr Alban ac Ynys Manaw. Am fod eu hieithoedd unigol yn perthyn i’w gilydd fe’u gelwir yn ieithoedd Celtaidd.

Mae gan Jonathan Wooding astudiaeth ddefnyddiol  ar ‘The idea of the Celt’ (yn Atherton, 2002).

D.S. I gael y manylion am deitlau ewch i’r adran: cyhoeddiadau perthnasol.

CRISTNOGAETH GELTAIDD

Sut yr ymddangosodd Cristnogaeth Geltaidd?

Daeth Cristnogaeth i Brydain yng nghyfnod y Rhufeiniaid. Pan ymadawodd y byddinoedd  Rhufeinig yn y bumed ganrif gwreiddiodd  a datblygodd Cristnogaeth hyd at ddyfodiad y Normaniaid ar ddiwedd yr unfed ganrif ar ddeg.

Croes Geltaidd yn Nanhyfer

Croes Geltaidd yn Nanhyfer


Fodd bynnag, ni fu erioed 'Eglwys Geltaidd' fel y cyfryw; roedd y Cristnogion hyn yn eu hystyried eu hunain yn aelodau o’r Eglwys gyfan a oedd yn cynnwys y Dwyrain a’r Gorllewin hyd at y rhaniad mawr ym 1054. Dyna pam yr oedd y Cristnogion Celtaidd yn rhydd i deithio ar y Cyfandir a thu hwnt, gan rannu’n llawn yng ngweithgareddau ysgolion a mynachlogydd lleol.

Sut bynnag, fel yn rhannau eraill o Wledydd Cred, ymddangosodd ysbrydolrwydd penodol ym mhob un o’r gwledydd Celtaidd. Datblygodd diwinyddiaeth leol a phwysleisiwyd agweddau arbennig o’r ffydd Gristnogol. Daeth hyn yn sgil ymwneud Cristnogaeth ag amgylchfyd diwylliannol, cymdeithasol a gwleidyddol y sefyllfa leol.

Yn ei erthygl ar  ‘Celtic Spirituality’ dywed Thomas O’Loughlin (2005)

Tra bod gan y Gorllewin canoloesol syniad am ei undod crefyddol (a fynegwyd mewn mapiau, cyfraith ac iaith) nid oedd wedi profi unffurfiaeth o ran litwrgi na’r dyhead am unffurfiaeth athrawiaethol sy’n nodweddu canrifoedd diweddar.Er enghraifft, dim ond gydag argraffu y daeth hi’n bosibl cael unffurfiaeth litwrgaidd dros ardal eang, a dim ond gyda’r Diwygiad Protestannaidd y daeth yr awydd am y fath unffurfiaeth yn rym mewn gwleidyddiaeth eglwysig. Cynharaf yn y byd yw’r cyfnod yr edrychir arno yn y Gorllewin mwyaf yn y byd y gwelir mai cysylltiadau lleol sydd yn cynhyrchu’r patrymau unigryw mewn ysbrydolrwydd. Mae’n ymwneud â phatrymau lleol o ymsefydlu, y cefndir cyfreithiol a’r defnydd o’r iaith (t.183).

Roedd defnyddio’r Wyddeleg neu’r Gymraeg ochr yn ochr â’r Lladin yn arwydd clir bod gan Gristnogaeth Geltaidd nodweddion cyffredinol a lleol.

Ceir copi o’r hen destunau Cymraeg gyda nodiadau a throsiad i Gymraeg diweddar yn Haycock, M. (1994). Cynhwysir ambell drosiad ychydig yn wahanol yn Ap Gwilym, G. (gol.), (1999).

Ceir detholiad eang o destunau canoloesol o ffynonellau Gwyddelig a Chymreig wedi eu cyfieithu i Saesneg yn Davies, O. (1999). Mae blodeugerdd o ddefnyddiau canoloesol a modern o Lydaw, Iwerddon , Yr Alban a Chymru yn Davies, O. a Bowie, F. (1995).

Beth yw prif nodweddion Cristnogaeth Geltaidd yng Nghymru o’r bumed i’r ddeuddegfed ganrif?

Wedi iddo astudio’r testunau Cymraeg cynnar daw Oliver Davies (1996) i’r casgliad y gellir crynhoi’r traddodiad Cymreig unigryw mewn tri gair. ‘Mae’n pwysleisio’r Drindod, yr Ymgnawdoliad a’r Greadigaeth Gyfan.’

Noda ei bod yn ‘ffurf ar Gristnogaeth sy’n rhoi gwerth arbennig ar allu creadigol y bardd’ (t.144).

i. Y Drindod

Yn ôl Marged Haycock, Naw Englyn y Juvencus yw ‘yr enghraifft ysgrifenedig gynharaf o gerdd grefyddol Gymraeg’. Ceir sawl cyfeiriad at y Drindod yn yr englynion hyn a phwysleisir

Nid gormod o lafur yw moli’r Drindod.

Teitlau’r ddwy gerdd nesaf yn Haycock, M. (1994) yw ‘Y Tri yn Un’ ac ‘Erchi Nawdd y Drindod’.

Yn sgil ymwybyddiaeth y Celtiaid o gymundeb Duw y Tri yn Un daeth pwyslais ar gymuned.

Mae cred yn effeithio ar ymddygiad. Yn sgil ymwybyddiaeth y Celtiaid o gymundeb Duw y Tri yn Un daeth pwyslais ar gymuned. Mynegwyd hyn trwy sefydlu mynachlogydd yn Iwerddon cyn cyfnod Padrig ac yng Nghymru o gyfnod cynnar.

Ar sail Bucheddau’r Saint Cymreig mae Oliver Davies (1996) yn awgrymu bod yna dri math o fynachlogydd yn fras yng Nghymru.

Roedd yna fynachlogydd a oedd yn ganolfannau mawr megis Llancarfan, Tywyn, Llanbadarn Fawr, Clynnog Fawr a chymuned Sant Illtud yn Llanilltud Fawr. Yn ogystal â’r mynachlogydd mawr prysur hyn a oedd yn dilyn ffordd o fyw nad oedd yn rhy gaeth, yr oedd yna gymunedau lle’r oedd pawb yn gwneud gwaith corfforol ac a ystyrid yn rhai mwy asgetaidd eu natur. Dywedir bod Samson a Dewi wedi encilio o Lanilltud Fawr i Ynys Bŷr a bod Dyfrig wedi encilio i Ynys Enlli dros y Garawys a’i fod wedi dychwelyd yno i farw. Mae’n ddigon posibl mai cymuned o’r math hwn oedd cymuned wreiddiol Dewi, a barnu yn ôl Buchedd Dewi Rhygyfarch. Fodd bynnag gwelir math arall eto pan ymwrthododd Samson ag Ynys Bŷr ac encilio i ogof, lle, gyda nifer fach o feudwyaid eraill, y dilynodd alwedigaeth fwy digymrodedd (tt.10 ymlaen).

Syniad arlunydd o Lanbadarn Fawr yn y chweched ganrif

Syniad arlunydd o Lanbadarn Fawr yn y chweched ganrif

Yn ogystal â moli’r Drindod Sanctaidd gyda’u gwefusau roedd y Cristnogion Celtaidd hyn yn mynegi ffordd o fyw’r Drindod yn eu bywyd ynghyd. Adlewyrchwyd cymundeb y Tad, y Mab a’r Ysbryd Glân yng nghymun y saint gyda’r hwn yr oedd wedi ei  gysylltu drwy’r Ysbryd a ddaeth ar y Forwyn Fair.

ii. Yr Ymgnawdoliad

Mae englynion y Juvencus yn gorffen gyda’r geiriau hyn:

Nid gwaith gormodol  (yw) moli mab Mair

Yn unol â’i ffynhonnell roedd traddodiad Cristnogol cynnar y Celtiaid yn dathlu’r Ymgnawdoliad.

Nid yw ei hefelydd (‘ei gymar, ei gydradd’)
wedi ei eni ar wyneb y ddaear …
Mab i’r duwdod, mab i’r dyndod, mab dymunol …

Adleisir hyn yng ngherdd Madog ap Gwallter tua 1250.

Mab a roddwyd i ni, Mab a aned yn ffortunus a breintiau iddo,
Mab (y) gogoniant, Mab i’n gwaredu, y Mab gorau…
Heb dad o gnawd, hwn yw’r Mab grasol, rhoddwr bendithion …
Cawr mawr bychan, cryf cadarn gwan.

Yn ei eni distadl a’i ddioddefaint mawr fe uniaethodd y Crist ymgnawdoledig gyda grŵp o bobl a oedd yn byw o dan fygythiad.

Roedd gallu Crist i ddioddef mewn cariad yn ennyn dyfalbarhad a gobaith.

Croes dirion Crist, yn arfogaeth lathraid rhag pob poen;
Rhag pob un llidiog bydded hi’n gadarn, yn noddfa amddiffynnol.

Mae’r weddi Gymraeg hon sy’n gofyn am amddiffyniad yn adleisio Llurig Padrig.

Mae pwyslais ar y Duw ymgnawdoledig yn arwain at bwysleisio’r corfforol. Mae’r materol yn cyfrif. Mae’r corff dynol yn rhan o ddatblygiad ysbrydolrwydd aeddfed. Disgrifiwyd Hyfrydbethau Taliesin fel ‘un o weithiau mwyaf llenyddiaeth grefyddol Gymraeg y Canol Oesoedd.’ Mae’r bardd yn dathlu prydferthwch gwledd briodas yn ogystal â phrydferthwch y lleuad ddisglair, y grawn ar y coesyn, y gwylanod yn chwarae, y pysgodyn yn y llyn, y ceffyl yn ei ffrwyn. Ond craidd y gerdd hon yw’r angen am benyd. Ni welir disgyblu’r corff fel rhywbeth negyddol ond fel ffordd o ogoneddu Duw.

Peth hyfryd yw rhinwedd penyd mawr i (dalu iawn am) ryfyg

iii.Y Greadigaeth Gyfan

Yn ogystal â sôn am y Drindod a‘r Ymgnawdoliad yng Nghristnogaeth y Celtiaid   mae Oliver Davies (1996) yn dweud ei bod hefyd yn rhoi sylw mawr i’r greadigaeth gyfan. Mae englynion y Juvencus yn agor trwy gyfarch y ‘Creawdwr hollalluog’ a’r trydydd yn datgan

Fe wnaeth y Tad, drwy wyrth, y byd;
anodd yw (mynegi) cymaint y (wyrth honno):
nid yw llenyddiaeth ysgrifenedig yn ei chynnwys
(nac) yn medru ei hamgyffred.

Yn y ddeuddegfed ganrif ceir cerdd gosmig o fawl sydd yn cyfuno darluniau o fyd natur, y gymdeithas ddynol a’r eglwys.

Gogoneddus Arglwydd, henffych well!
Bydded i eglwys a changell dy ogoneddu …
Bydded i’r lle gwastad a’r lle serth dy ogoneddu …
Bydded i’r tywyllwch a’r dydd dy ogoneddu …
Bydded i’r adar a’r gwenyn dy ogoneddu …
Bydded i wryw a benyw dy ogoneddu …
Bydded i (blanedau’r) saith niwrnod a’r sêr dy ogoneddu …
Bydded i dywod a thywarch dy ogoneddu;
Bydded i’r (holl) bethau da grewyd dy ogoneddu.
Mi a’th ogoneddaf, Arglwydd y gogoniant,
Gogoneddus Arglwydd, henffych well!

yr haul yn tywynnu trwy’r cymylauRoedd y Cristnogion Celtaidd yn ymwybodol iawn bod y Creawdwr yn bresennol yn ei greadigaeth. Roedd gogoniant Duw yn tywynnu trwy ei holl weithredoedd. Yr Arglwydd trosgynnol oedd y Bod presennol a oedd wrth wraidd pob peth.

Amlygwyd sancteiddrwydd lleoedd arbennig oherwydd eu cysylltiad â phobl sanctaidd a alwyd nes ymlaen yn saint. Ers ei farw cafodd Padrig ei arddel yn sant. Mae’r arysgrif o’r seithfed ganrif ar y garreg enwog yn eglwys Llanddewibrefi yn sôn am ‘Dewi sanctaidd’. Daeth lleoedd a ffynhonnau a gysylltwyd â’r saint hyn yn gyrchfan pererindod. Roedd pobl yn dyheu am gael eu cipio i ganol y sancteiddrwydd cosmig hwn. Wrth iddynt rannu yn sancteiddrwydd Duw roedden nhw’n dechrau ei adlewyrchu; er eu bod yn oleuadau cyfyng dechreusant ddatgelu’r gwir Oleuni.

Ydy Cristnogaeth Geltaidd yn bodoli o hyd?

Mae James P. Mackey yn mynnu bod Cristnogaeth Geltaidd yn bodoli o hyd ac mae A. M. Allchin yn dweud ble y gellir dod o hyd iddi. Mae’n sôn am bedwar bardd a ymddangosodd ganol yr ugeinfed ganrif: Saunders Lewis, Gwenallt Jones, Waldo Williams ac Euros Bowen.

Yr oedd pob un ohonynt, yn ei ffordd ei hun, yn cynnal traddodiad pymtheg can mlynedd o farddoniaeth gysegredig… Felly mae’r pedwar ‘athro Eglwysig’ hyn… yn rhan o stori sy’n dal i ddatblygu … (t. 642).

Mae cerddi’r pedwar yn dal mewn print.

  • Bowen, Euros, nifer o gasgliadau.
  • Davies, C., Davies, S. (1993), Euros Bowen: Bardd-Offeiriad, Caerdydd, Eglwys yng Nghymru. Detholiad a chyfieithiad.
  • Gruffydd, R.G. (gol.), (1992), Cerddi Saunders Lewis, Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru.
  • James, C. (gol.), (2001), Cerddi Gwenallt: Y Casgliad Cyflawn, Llandysul, Gwasg Gomer.
  • Williams, Waldo. (1956), Dail Pren: Cerddi, Llandysul, J.D.Lewis, Gwasg Gomer.
  • Ap Gwilym, G., Llwyd, A. (goln), (1987), Blodeugerdd o Farddoniaeth Gymraeg yr Ugeinfed Ganrif, Llandysul, Gwasg Gomer, Cyhoeddiadau Barddas.

Ffynhonnell arall o ysbrydolrwydd modern Gymraeg a nodir gan A.M.Allchin yw’r llu o emynau Cymraeg. Mae eu delweddau’n atgoffa rhywun am eiconau’r Dwyrain. I nodi’r trydydd mileniwm Cristnogol  lluniodd panel a gynrychiolai’r rhan fwyaf o enwadau Cymru gasgliad o dros 900 o emynau Cymraeg. Mae Caneuon Ffydd, Pwyllgor Llyfr Emynau Cydenwadol, Llandysul, Gwasg Gomer, 2001, wedi gwerthu mwy o gopïau nag unrhyw gyhoeddiad arall yn yr iaith Gymraeg. Mae’n rhaid i hyn roi mymryn o obaith yng nghanol yr holl bryder sydd yn yr eglwysi ar hyn o bryd.

Heddiw rydym  yn sefyll ar ryw drothwy wrth i ni aros i weld y bywyd Cristnogol yn cael ei fynegi mewn ffyrdd newydd yng nghanol anhrefn ein dyddiau ni. Allan o ddryswch y cyfnod ar ôl y Rhufeiniaid ymddangosodd Oes y Saint, tarddle Cristnogaeth Geltaidd. Dull Duw o adnewyddu yw trwy farwolaeth ac atgyfodiad.

Heading

Dolor sit amet, consectetuer adipiscing elit. Morbi commodo, ipsum sed pharetra gravida, orci magna rhoncus neque, id pulvinar odio lorem non turpis.

Sub-heading

Sed aliquam, nu eget euismod ullamcorper, lectus nunc ullamcorper orci, fermentum bibendum enim nibh eget ipsum. Donec porttitor ligula eu dolor. Maecenas vitae nulla consequat libero cursus venenatis.