To Church in Wales home page

The Church in Wales - Yr Eglwys yng Nghymru

tiwtorialau

Ar ôl darllen y wybodaeth gyffredinol ar y llaw dde, cliciwch islod am un o’n tiwtorialau ar ddefnyddio RSS gydag:

Canllaw Syml i Syndecatiad Syml Iawn (RSS)

Mae RSS, neu “porthiant newyddion”, yn eich galluogi i ganfod pryd y mae gwefannau yn diweddaru eu cynnwys. Gall fod yn ddefnyddiol iawn, gan ei fod yn golygu nad oes yn rhaid i chwi edrych ar wefannau o hyd i wneud yn siŵr nad ydych wedi colli dim.

Daeth yn gynyddol gyffredin dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf i ddefnyddio RSS ar-lein. Er enghraifft, mae’r BBC yn caniatáu i chwi gofrestru am borthiant RSS mewn nifer o leoedd ar eu gwefan. Medraf ofyn am gael fy hysbysu pan ychwanegir darn o newyddion ar Ddinas Abertawe er enghraifft, neu am dderbyn rhagolygon y tywydd yn ddyddiol.

Yr ydym wedi cynnwys porthiant RSS mewn nifer o leoedd yng ngwefan newydd yr Eglwys yng Nghymru, fel y medrwch gofrestru i gael eich hysbysu pan fyddwn yn diweddaru adrannau. Gobeithiwn y bydd hyn yn dileu’r ffwdan o gofrestru am restr bostio.

Lle mae Porthiant RSS ar wefan yr Eglwys yng Nghymru?

Ar hyn o bryd, mae’r adrannau cyfredol yn caniatáu i chi lofnodi am borthiant RSS:

  • Ar y dudalen gartref, medrwch gofrestru am borthiant RSS o Newyddion a Digwyddiadau (dyma’r hyn a welwch yn y golofn chwith ar y dudalen gartref).
  • Yn adran y Wasg, medrwch lofnodi am borthiant RSS o’r datganiadau i’r wasg daleithiol ddiweddar.
  • Yn adran Y Beibl yr Wythnos Hon (dan Ffydd), medrwch gofrestru am borthiant RSS o’n myfyrdod Beiblaidd wythnosol.
  • Mae gwefannau newydd esgobaethau hefyd yn eich galluogi i lofnodi am borthiant RSS ar gyfer Newyddion a Digwyddiadau, Datganiadau i’r Wasg, a Swyddi Gwag.

Mae arna i eisiau un! Sut mae cofrestru am borthiant RSS?

Mae nifer o ffyrdd y medrwch gofrestru am borthiant RSS, a bydd y ffordd a ddewiswch yn dibynnu ar y ffordd yr ydych yn defnyddio’r Rhyngrwyd. Y ffactor bwysicaf yw bod yr holl ffyrdd a drafodir yn y canllawiau hyn yn rhad ac am ddim.

(Fodd bynnag, gofynnir i chwi nodi bod rhai cwmnïau’n cynnig meddalwedd arbenigol i gynnwys porthiant RSS i raglenni eraill, megis Microsoft Outlook. Weithiau, golyga hyn y bydd yn rhaid talu ffi fechan am y meddalwedd).

Mewn porwr

Mae dwy brif ffordd y medrwch gofrestru am borthiant RSS. Yn gyntaf, mae’r porwyr diweddaraf (dyma’r rhaglen a ddefnyddiwch i edrych ar y rhyngrwyd) – Internet Explorer, Firefox, a Safari – oll yn eich galluogi i gofrestru am borthiant RSS yn y porwr ei hunan. Cliciwch ar y dolenni i’n canllawiau yn y golofn chwith os hoffech fwy o wybodaeth am y ffordd hon o ddefnyddio RSS.

Dyma’r ffordd symlaf i ddefnyddio porthiant RSS, ond ni fydd yn gweithio ond yn y porwr y dodwch ef ynddo. Os ydych yn symud yn aml rhwng gwahanol gyfrifiaduron, yna dim ond ar un peiriant y gallwch gael mynediad i’ch porthiant RSS. Gall hyn achosi rhwystredigaeth os ydych yn symud yn gyson rhwng, dyweder, peiriant yn y gwaith a pheiriant gartref.

Ar-lein

Yr ail ffordd i gael mynediad i borthiant RSS yw cofrestru am wasanaeth megis bloglines.com (mae newsalloy.com a Google Reader yn cynnig gwasanaethau tebyg – ac nid yw hon yn rhestr lawn o gwbl).  Bydd hyn yn eich galluogi i gael mynediad i’ch porthiant ar unrhyw beiriant. Mae cofrestru am y gwasanaeth hwn yn debyg i gofrestru am gyfeiriad e-bost ar-lein - mae’n rhaid rhoi nifer o fanylion, ac yna enw defnyddiwr a chyfrinair y medrwch eu defnyddio i logio i unrhyw beiriant ar-lein a gweld eich porthiant RSS. Eto, cliciwch ar y ddolen i’r tiwtorial ar y chwith os hoffech weld mwy am hyn.

Medrwch gofrestru i dderbyn neu ddiddymu Porthiant RSS unrhyw adeg y dymunwch – nid oes unrhyw ymrwymiad. Bydd pobl yn aml yn cofrestru am borthiant RSS o lawer o ffynonellau i ddechrau, a dileu nifer ohonynt yn araf nes canfod y rhai sy’n fwyaf defnyddiol iddynt hwy. Ni fydd o bwys gennym ni o gwbl os cofrestrwch am un o’n porthiannau a phenderfynu wedyn nad oes arnoch mo’i angen mewn gwirionedd.