To Church in Wales home page

The Church in Wales - Yr Eglwys yng Nghymru

Tudalen hafan y Corff llywodraethol



Notes about Domestic Arrangements



Notes about Worship Arrangements

 

Mae pob dogfen i’w lawrlwytho yn ddogfennau MS Word o 200k neu lai.

CORFF LLYWODRAETHOL YR EGLWYS YNG NGHYMRU

Yn Neuadd y Celfyddydau, Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan, ar Ddydd Mercher a Dydd Iau 14 a 15 April 2010.


Download

Agenda - Diwrnod 1

Cinio 12:15

  1. Gweddïau a Darlleniad o’r Beibl 13:30
  2. Tystir bod Mandat y Llywydd wedi’i weithredu’n briodol.
  3. Cofnodion y Cyfarfod Cyffredin o’r Corff Llywodraethol a gynhaliwyd ar 16 ac 17 Medi 2009
  4. Materion yn codi o’r Cofnodion (os bydd rhai)
  5. Croesawu cynrychiolwyr Cytûn ac eglwysi eraill
  6. Adroddiad y Pwyllgor Sefydlog
    • Cynigir argymhellion y Pwyllgor a geir ar ddiwedd yr Adroddiad.
  7. Anerchiad y Llywydd
  8. Strategaeth Galwadau i'r Eglwys yng Nghymru (PDF - Saesneg)

    Cynnig: Bod y Corff Llywodraethol:
    1. yn cadarnhau bod angen dwys i’r Eglwys yng Nghymru, o dan Dduw, geisio a meithrin galwadau i’r weinidogaeth ordeiniedig;
    2. yn croesawu’r cynllun Taleithiol i ddilyn Strategaeth Galwadau am gyfnod o bum mlynedd;
    3. yn gofyn i’r Eglwys ar bob lefel – plwyfi, deoniaethau ac esgobaethau – i gydweithio â’r Strategaeth Daleithiol i geisio meithrin galwadau o’r fath.
  9. Adroddiad Coleg Mihangel Sant, Llandaf

    Cynnig: Derbyn Adroddiad Coleg Mihangel Sant, Llandaf
  10. Cyfarfod y Cyngor Anglicanaidd Ymgynghorol (Cyfarfod 14)
  11. Amser Cwestiynau

Hwyrol Weddi (Capel) 1815
Swper 1845

Diwrnod 2

Gweinyddu’r Cymun Bendigaid (Capel) 0730
Brecwast 0800-0900

  1. Adborth o’r Grwpiau a fu’n trafod Anerchiad y Llywydd 0930
  2. Rôl yr Esgobion a’r Archesgob – trafodaeth mewn Grwpiau
  3. Amddiffyn a Diogelu Plant - Cyflwyniad
  4. Yr Eglwys yng Nghymru a’i Chladdfeydd – Adroddiad o Gorff y Cynrychiolwyr
      Cynnig: Bod y Corff Llwyodraethol yn
    1. yn croesawu’r Adroddiad ar gladdfeydd a enwir ‘Yr Eglwys yng Nghymru a’i Chladdfeydd’;
    2. yn cydnabod yn ddiolchgar yr arian, yr amser a’r egni a fuddsoddwyd gan blwyfolion ers y Datgysylltiad i gynnal a chadw mynwentydd yn asedau o bwys er budd y gymuned gyfan;
    3. yn nodi cost arfaethedig cynnal a gwella mynwentydd yn y dyfodol;
    4. yn cynnig y dylai mynwentydd a gaewyd gael eu cynnal ar gost y cyhoedd gan gynghorau cymuned neu awdurdodau lleol;
    5. yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru a’r awdurdodau lleol i ddatblygu cynllun ar y cyd i ddarparu a chynnal claddfeydd y bydd pawb o’r darparwyr yn gyfrifol amdanynt;
    6. yn annog trafod gyda chynghorau cymuned, awdurdodau lleol a chyrff perthnasol eraill, cenedlaethol a lleol, syniadau ar ofalu am fynwentydd a gaewyd.
  5. Polisi Buddsoddi Moesegol

    • Cynnig: Mabwysiadu’r Datganiad sy’n traethu egwyddorion moesegol buddsoddi o dan y teitl ‘Polisi Buddsoddi Moesegol’ a ddyddiwyd 22 Mawrth 2010 yn rhan o bolisi buddsoddi’r Dalaith
  6. Gwasanaethau Priodas(PDF)
    • Cynnig: Bod y Corff Llywodraethol trwy hynyma, yn unol ag Adran 1 y Canon a gyhoeddwyd ar 29 Medi 1955 i ganiatáu defnyddio’n arbrofol ddiwygiadau i’r Llyfr Gweddi Gyffredin a gymeradwywyd gan Fainc yr Esgobion, yn caniatáu defnyddio’n arbrofol am gyfnod heb fod yn fwy na thair blynedd y ‘Gwasanaethau Priodas i’w defnyddio yn yr Eglwys yng Nghymru yn ychwanegol at y Gwasanaethau a gynhwysir yn Llyfrau Gweddi 1664 a 1984’ ( a argraffwyd ym mis Mawrth 2010).
  7. Dyddiad a Lleoliad y Cyfarfod Nesaf
    • Penderfynodd y Corff Llywodraethol y cynhelir y Cyfarfod Cyffredin nesaf ar 22 a 23 Medi 2010 ym Mhrifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan.

Heading

Dolor sit amet, consectetuer adipiscing elit. Morbi commodo, ipsum sed pharetra gravida, orci magna rhoncus neque, id pulvinar odio lorem non turpis.

Sub-heading

Sed aliquam, nu eget euismod ullamcorper, lectus nunc ullamcorper orci, fermentum bibendum enim nibh eget ipsum. Donec porttitor ligula eu dolor. Maecenas vitae nulla consequat libero cursus venenatis.