CORFF LLYWODRAETHOL YR EGLWYS YNG NGHYMRU
Yn Neuadd y Celfyddydau, Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan, ar Ddydd Mercher a Dydd Iau 23 a 24 Medi 2009
Agenda - Day 1
Cinio 12:15
- Gweddïau a Darlleniad o’r Beibl 13:30
- Hysbysu bod Mandat y Llywydd wedi ei iawn weithredu
- Cofnodion y Cyfarfod Cyffredin o’r Corff Llywodraethol a gynhaliwyd ar 2 a 3 Ebrill 2008
- Materion yn codi (os bydd rhai)
- Croesawu Cynrychiolwyr Cytûn ac eglwysi eraill
- Anerchiad y Llywydd
- Adroddiad y Pwyllgor Sefydlog
- Cynigir argymhellion y Pwyllgor a geir ar ddiwedd yr Adroddiad.
- Adroddiad Corff y Cynrychiolwyr yn cynnwys y Cyfrifon am y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2008
Cynigion:- Cymeradwyo Adroddiad Corff y Cynrychiolwyr Y Cynllun Pensiwn a Buddgedau Clerigion
- Newid y Cynllun Pensiwn a Buddgedau Clerigion i roi grym i’r cynigion a draethir yn y nodyn gan Gorff y Cynrychiolwyr o dan y pennawd ‘y Cynllun Pensiwn a Buddgedau Clerigion’ ac arno’r dyddiad 17 Awst 2009.
- Adroddiad Aelodaeth a Chyllid (yn cynnwys lawnsio Rhodd Uniongyrchol (gynt GWADD))
Cynnig: Bod y Corff Llywodraethol yn cymryd sylw o’r Adroddiad hwn. - Y Cymundeb Anglicanaidd – Adroddiad o’r Cyngor Anglicanaidd Ymgynghorol 14, Jamaica, Mai 2009
- Rhwydwaith Ryngwladol y Teulu Anglicanaidd
- Cymdeithas Genhadol yr Eglwys – Cyflwyniad ar waith gyda phlant yn Nepal
- Adroddiad Blynyddol Cymdeithas y Gweddwon, yr Amddifaid a’r Dibynyddion
Cynnig: Bod y Corff Llywodraethol un cymryd sylw o'r Adroddiad hwn. - Amser Cwestiynau
Swper 18:30
Hwyrol Weddi (Capel) 20:00
Dydd 2
Boreol Weddi a
Gweinyddiad o’r Cymun Bendigaid (Capel) 07:30
Brecwast 08:00-09:00
- Cyflwyniad gan Swyddogion Diogelu Plant yr esgobaethau 09:30
- Adolygiad Addysg yr Eglwys yng Nghymru
-
Cynnig: Bod y Corff Llwyodraethol yn
- cadarnhau ymrwymiad yr Eglwys yng Nghymru i weithio gyda’r llywodraeth a chyrff gwirfoddol i gyrraedd y safonau addysg uchaf ar gyfer holl boblogaeth Cymru;
- cymeradwyo deall addysg fel modd hanfodol o wahodd a galluogi pobl i dyfu i’r cyflawnder bywyd y mae Duw’n ei fwriadu inni;
- derbyn adroddiad terfynol Grŵp Adolygu Addysg yr Eglwys yng Nghymru ac adroddiad Rhwydwaith Plant yr Eglwys yng Nghymru;
- gofyn i Fainc yr Esgobion weithio gyda phob sianel bosibl a chyda phawb posibl i weithredu argymhellion yr Adolygiad Addysg dros y pum mlynedd nesaf.
- Adroddiad Coleg y Drindod, Caerfyrddin
Cynnig: Derbyn Adroddiad Coleg y Drindod, Caerfyrddin. - Cyflwyniad gan Esgobaeth Bangor
- Bil i Newid y Cafansoddiad
-
Cynnig: Bod y Corff Llywodraethol yn pwyllgora:
- Cyfnod pwyllgora
- Adroddiad a Phleidlais Cynnig: Bod y Bil yn cael ei basio.
- Trafodaeth ar Wasanaethau Priodas 2009
- Dyddiad a Lleoliad y Cyfarfod Nesaf
- Penderfynodd y Corff Llywodraethol y cynhelir y Cyfarfod Cyffredin nesaf ar 14 a 15 Ebrill 2010 ym Mhrifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan.

