To Church in Wales home page

The Church in Wales - Yr Eglwys yng Nghymru

Beth yw hyn?

Cyflwynir yr Adroddiad Aelodaeth a Chyllid i’r Corff Llywodraethu bob blwyddyn.

Mae’n drosolwg ystadegol ar ffactorau allweddol gan yr Eglwys yng Nghymru.

Mae tair prif adran:

  1. Aelodaeth
  2. Cyllid
  3. Y Darlun Taleithiol

Lawrlwytho

I lawrlwytho’r Adroddiad Aelodaeth a Chyllid

PDF (800k) Word
(200k)
pdf document icon word document icon

 

Aelodaeth a Chyllid 2004/2005

Rhagair

Mae’r ystadegau a nodir yn y tablau a’r siartiau canlynol yn seiliedig ar wybodaeth a gasglwyd o’r plwyfi yng Nghymru. Mae’r ffigurau, a gesglir yn flynyddol mewn fformat safonedig, yn rhoi darlun cyffredinol o’r Dalaith, mynychu’r Eglwys a chyfrannu. Defnyddir y data i gynorthwyo gyda chynllunio gwaith yr Eglwys yng Nghymru ar raddfa talaith ac esgobaeth.

CrynodebTaleithiol o ‘Aelodaeth’ y Plwyfi am 2004 a 2005
* cyfrifwyd o’r data a gasglwyd am y saith mlynedd o 1999 i 2005
 

2004

2005

2006

2004
+/-

2005
%

Tuedd
Flynyddol*

Communicants

           
Pasg 74,779 66,954 68,632 -7825 -10 -2800
Pentecost 41,582 38,853   -2729 -7 -1007
Nadolig 72,521 74,182   1661 2 -845
Trindod III 37,913 37,012   -901 -2 -743

Mynychwyr ar Gyfartaledd -
dros 18 oed

           
Dydd Sul 41,771 40,436   -1335 -3 -1086
Diwrnodau gwaith
yn unig
6,030 5,924   -106 -2 36

Mynychwyr ar Gyfartaledd -
o dan 18 oed

7,746 7,195   -551 -7 -667
Rhestr yr Etholwyr 72,203 70,353   -1950 -3 -182
Bedyddiadau 8,595 8,160   -435 -5 -298
Conffyrmasiwn 2,099 1,967   -132 -6 -133
Priodasau 4,052 3,901   -151 -4 20
Angladdau 11,129 10,461   -668 -6  

Ffigwr 1 - Cymunwyr

‘Aelodaeth’

Y mae yn Nhabl 1 a ffigurau 1 a 2 grynodeb o’r wybodaeth a gasglwyd
i roi rhyw syniad am ‘aelodaeth’ plwyfi am 2004 a 2005. Dengys y ffigurau am 2005:

  • Er gwaethaf amrywiadau yn nifer y cymunwyr ar y prif wyliau,
    daliodd cyfartaledd y presenoldeb mewn gwasanaethau ar y Sul
    ac ar ddyddiau gwaith i ostwng ar raddfa weddol fechan ond
    cyson. Unwaith eto y mae graddfa’r gostyngiad ymhlith aelodau
    dan 18 oed gryn dipyn yn fwy.
  • Bu gostyngiad yn nifer y gwasanaethau achlysurol, ac y mae’r
    gostyngiad yn nifer y rhai a fedyddiwyd ac a dderbyniodd fedydd
    esgob yn achosi pryder arbennig yng ngoleuni gostyngiad cyffelyb
    yn nifer y bobl ifainc sy’n mynychu eglwys.

Mynychwyr a Rhestr yr Etholwyr

Cyfanswm Cyfraniadau Uniongyrchol

Ffigwr 4 - Cyfraniadau Uniongyrchol Wythnosol am bob Mynychwr ar y Sul

Cyllid

Incwm Plwyfol

Dengys Tabl 2 a ffigurau 3 a 4 gynnydd calonogol mewn incwm plwyfol ym mhob sector bron.

Tabl 2 CrynodebTaleithiol o Gyllid y Plwyfi am 2004 a 2005
 

INCWM

2004

2005

GWARIANT

2004

2005

  £(000) £(000)   £(000) £(000)
Cyfraniadau Uniongyrchol Rheolaidd 9,705 10,141 Cynnal y Weinidogaeth 12,723 13,738
Cyfraniadau Uniongyrchol Eraill 3,183 3,342 Cynnal a Chadw’r Eglwysi 4,098 4,533
Cyfanswm y Cyfraniadau Uniongyrchol 12.888 13,483 Cynnal y Gwasanaethau 1,215 1,291
Ad-daliadau’r Dreth Incwm 2,213 2,375 Cenhadaeth - Gartref 986 1,044
Grantiau 4,000 3,588 Cenhadaeth – Fyd-eang 700 938
Yr Eglwys
Fyd-eang
479 683 Treuliau’r Clerigion 1,610 1,575
Codi Arian 3,504 3,559 Costau Cyffredinol y Plwyfi 1,873 1,957
Incwm Arall 7,803 10,114 Cynnal a Chadw Eiddo 2,020 2,365
Incwm o Fuddsoddi 1,803 2,031 Cost Codi Arian 497 546
      Gwariant Cyfalaf 5,200 5,383

CYFANSWM

32,690

35,883

CYFANSWM

30,922

33,370

  • Daliodd y rhoi uniongyrchol gan bob mynychwr ar y Sul i gynyddu – o 8% o 2004 i 2005, o’i gymharu â chwyddiant y Mynegai Prisiau Manwerthu o 2.2% am yr un cyfnod. Cynrychiola’r hyn a roddwyd bob wythnos gan bob mynychwr ar y Sul yn 2005 (£6.38) 2.4% o gyfartaledd incwm wythnosol gros pobl Cymru o £264.80..
  • Unwaith eto, bu gan y swm a hawliwyd oddi wrth y dreth drwy Gymorth Rhodd a dulliau debydu uniongyrchol megis GWADD (rhyw £2,375,000 yn 2005) ran allweddol mewn sicrhau fod plwyfi yn medru talu eu costau gyda rhywfaint yn weddill.
  • Dengys y cynnydd sylweddol yn swm yr arian a godwyd ac a ddosbarthwyd at waith allanol, ac yn arbennig at genhadaeth fyd, barodrwydd y plwyfi i edrych ymhellach na’u hanghenion uniongyrchol a lleol hwy eu hunain yn eu tystiolaeth Gristnogol.

Ffigwr 5 - Crynodeb o Wariant y Plwyf

 

Y Darlun Taleithiol

Tabl 3 Incwm a Gwariant y Dalaith yn 2004 a 2005
 
 
Plwyfi
Byrddau’r Esgobaethau
Corff y Cynrychiolwyr
CYFANSWM
 

2004

2005

2004

2005

2004

2005

2004

2005

INCWM £m £m £m £m £m £m £m £m
Cyfrannu Uniongyrchol
12.9
13.5
-
-
-
12.9
13.5
Incwm Arall
18.0
20.3
-
-
-
18.0
20.3
Buddsoddiadau
1.8
2.0
0.4
0.4
15.0
15.3
17.2
17.7
 
32.7
35.8
0.4
0.4
15.0
15.3
48.1
51.5
                 
GWARIANT £m £m £m £m £m £m £m £m
Y Weinidogaeth
12.7
13.7
-
-
12.5
13.0
25.2
26.7
Costau Cynnal
16.6
17.6
0.4
0.4
2.2
2.2
19.2
20.2
Estyn Allan
1.7
2.0
-
-
0.7
0.7
2.4
2.7
Ailfuddsoddwyd
1.7
2.5
-
-
-0.4
-0.6
1.3
1.9
 
32.7
35.8
0.4
0.4
15.0
15.3
48.1
51.5
  • Mae’r plwyfi’n darparu mwy a mwy o’r incwm at waith yr Eglwys – at gynnal y weinidogaeth yn ogystal ag at gynnal a chadw ein hadeiladau eglwysig. 
  • Y mae dileu’r bwlch blynyddol cyson rhwng yr incwm a gaiff a’r gwariant y disgwylir iddo ei wneud yn flaenoriaeth i Gorff y Cynrychiolwyr, er mwyn sicrhau y gall barhau i ddarparu cefnogaeth ariannol sylweddol, a chefnogaeth arall, i’r Eglwys yng Nghymru.
  • Deil Corff y Cynrychiolwyr i dalu 45% o gyfanswm cost cynnal weinidogaeth yr Eglwys. Yn wir, fe gododd y gyfran o’r gwariant a neilltuodd at fudd-daliadau clerigion o 83% yn 2004 i 85% yn 2005.

Mae’r wybodaeth a nodir uchod yn rhoi ‘cipolwg’ar y Dalaith. Caiff ystadegau manwl eu paratoi ar gyfer bob Esgobaeth ac maent ar gael os gwneir cais. Rhaid diolch i bawb a gyfrannodd at baratoi, casglu, dadansoddi a chynhyrchu’r ystadegau blynyddol. Mae rhagor o gopïau neu wybodaeth ar gael oddi wrth:- Corff y Cynrychiolwyr,
39 Heol y Gadeirlan,
Caerdydd CF11 9XF.
Rhif ffôn 029 2034 8200
neu e-bost information@churchinwales.org.uk

Cafodd y ffigurau am 2004 eu diweddaru ers cyhoeddi'r adroddiad am y llynedd. Y mae'r adroddiad hwn, felly, yn cynnwys y ffigurau diwygiedig am 2004.

Heading

Dolor sit amet, consectetuer adipiscing elit. Morbi commodo, ipsum sed pharetra gravida, orci magna rhoncus neque, id pulvinar odio lorem non turpis.

Sub-heading

Sed aliquam, nu eget euismod ullamcorper, lectus nunc ullamcorper orci, fermentum bibendum enim nibh eget ipsum. Donec porttitor ligula eu dolor. Maecenas vitae nulla consequat libero cursus venenatis.