Aelodaeth Corff y Cynrychiolwyr: Gwybodaeth Gefndir
Aelodaeth:
Mae aelodaeth Corff y Cynrychiolwyr yn cynnwys:
- Cadeirydd Bwrdd Cyllid Esgobaethol pob esgobaeth;
- Cadeirydd Pwyllgor Sefydlog y Corff Llywodraethol;
- Yr Archesgob;
- Un clerig wedi ei ethol gan Gynhadledd Esgobaethol pob esgobaeth;
- Un person lleyg wedi ei ethol gan Gynhadledd Esgobaethol pob esgobaeth;
- Hyd at bedwar aelod wedi eu henwebu gan Fainc yr Esgobion mewn ymgynghoriad â’r Pwyllgor Sefydlog;
- Hyd at ddau aelod wedi eu cyfethol gan aelodau eraill Corff y Cynrychiolwyr.
Cymwysterau ar gyfer bod yn aelod:
Y mae’r canlynol yn gymwys:
Unrhyw glerig sy’n dal neu wedi dal bywoliaeth neu swydd eglwysig yn Yr Eglwys yng Nghymru neu drwydded oddi wrth un o Esgobion Cadeiriol Cymru.
Unrhyw Gymunwr Lleyg sydd dros ddeunaw mlwydd oed a heb fod yn hŷn na phymtheg a thrigain mlwydd oed sydd –
- naill ai yn byw, neu wedi byw ar unrhyw adeg am gyfnod o ddeuddeng mis, mewn plwyf sydd yng Nghymru; neu
- wedi bod yn gyfrannwr i goffrau’r Eglwys yng Nghymru o fewn 12 mis i’w enwebu ar gyfer aelodaeth;
- heb fod yn perthyn i unrhyw gorff crefyddol nad yw mewn cymundeb â’r Eglwys yng Nghymru.
Ni fydd unrhyw glerig na pherson lleyg sy’n weithiwr cyflogedig llawn amser i Gorff y Cynrychiolwyr, na Bwrdd Cyllid Esgobaeth nac unrhyw gorff taleithiol neu esgobaethol arall o’r fath yn Yr Eglwys yng Nghymru yn gymwys i fod yn aelod o Gorff y Cynrychiolwyr, nac ychwaith am y deuddeng mis cyntaf wedi iddo ymadael â’r swydd honno.
Ymrwymiad:
Mae aelodau yn gwasanaethu yn y lle cyntaf am gyfnod o dair blynedd wedi iddynt gael eu hethol neu eu cyfethol. Mae disgwyl y bydd tri chyfarfod o Gorff y Cynrychiolwyr bob blwyddyn. Ar y cyfan y mae disgwyl hefyd i aelodau fod yn aelodau o un o bwyllgorau Corff y Cynrychiolwyr (a mynychu rhwng dau a phedwar cyfarfod arall yn flynyddol). Bydd y cyfarfodydd yn digwydd gan amlaf yng Nghaerdydd, a rhai yn Amwythig.
Arbenigedd:
Nid oes anghenion ffurfiol ar wahân i’r cymwysterau aelodaeth a nodir uchod, ond yng ngoleuni cwmpas gweithgareddau Corff y Cynrychiolwyr byddai rhywfaint o arbenigedd yn un neu ragor o’r meysydd canlynol o fudd:
- Buddsoddiadau a bancio;
- Archwilio a chyfrifyddiaeth;
- Eiddo (adeiladau preswyl ac adeiladau eglwysig);
- Adnoddau dynol.
Treuliau:
Darperir lluniaeth yn ystod cyfarfodydd lle bo hynny’n addas, ac ad-delir unrhyw dreuliau teithio rhesymol.

